SL(6)167 – Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Anheddau Gwag Hirdymor ac Anheddau a Feddiennir yn Gyfnodol) (Cymru) 2022

Cefndir a Diben

Mae Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Anheddau Gwag Hirdymor ac Anheddau a Feddiennir yn Gyfnodol) (Cymru) 2022 (“y Rheoliadau”) yn cael eu gwneud gan Weinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 12A(13(a), 12B(12) a 113(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Deddf 1992”) a deuant i rym ar 1 Ebrill 2022.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio adrannau 12A a12B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 i ddarparu, ar gyfer blwyddyn ariannol sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2023, y caiff awdurdod bilio yng Nghymru benderfynu mewn perthynas â’i ardal, os yw annedd ar unrhyw ddiwrnod yn annedd wag hirdymor neu’n annedd a feddiennir yn gyfnodol, fod swm y dreth gyngor sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r annedd honno a’r diwrnod hwnnw wedi ei gynyddu gan ganran nad yw’n fwy na 300 (yr uchafswm ar hyn o bryd yw 100 y cant).

Mae'r pŵer i gynyddu'r swm a godir yn bŵer disgresiwn ac mae’n galluogi awdurdodau bilio i ystyried y gwahanol amgylchiadau o fewn ardaloedd awdurdodau bilio unigol. Mater i bob awdurdod lleol yw’r penderfyniad i godi premiwm a swm y premiwm hwnnw.  Wrth wneud penderfyniad o’r fath, bydd awdurdodau lleol yn ystyried amrywiaeth o ffactorau gan gynnwys yr angen i sicrhau bod eiddo gwag yn cael ei ddefnyddio eto i ddarparu cartrefi saff, diogel a fforddiadwy, cynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy a gwneud cymunedau lleol yn fwy cynaliadwy.

Y weithdrefn

Cadarnhaol drafft

Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod drafft o'r Rheoliadau gerbron y Senedd. Ni all Gweinidogion Cymru wneud y Rheoliadau oni bai fod y Senedd yn cymeradwyo'r Rheoliadau drafft.

Materion technegol: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd y tri phwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Mae'r cynnydd sylweddol iawn yn nisgresiwn yr awdurdod bilio o 100 y cant i 300 y cant yn nodedig yn ei rinwedd ei hun ac mae'n ymddangos ei fod hefyd yn ymgysylltu Erthygl 1 o'r Protocol Cyntaf i'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.  Er y cydnabyddir y gall y Wladwriaeth ymyrryd ag eiddo dinesydd, yn yr achos hwn drwy gynyddu ffi’r Dreth Gyngor ar anheddau gwag hirdymor neu anheddau a feddiennir yn gyfnodol, nid yw’r Memorandwm Esboniadol na’r Nodyn Esboniadol i’r Rheoliadau, nac ychwaith yr ymgynghoriad gwreiddiol yn ôl pob golwg, yn nodi unrhyw ystyriaeth benodol o’r effaith ar hawliau o dan Erthygl 1 Protocol 1, ac a yw’r cynllun a weithredir gan y Rheoliadau yn fodd cymesur o gyflawni nod dilys yn hyn o beth.

2. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Mae Rhan 5 o'r Memorandwm Esboniadol yn ymdrin â'r ymgynghoriad a gynhaliwyd mewn perthynas â'r Rheoliadau. Mae paragraffau 5.2 a 5.3 yn nodi:

“5.2 Derbyniwyd 974 o ymatebion i’r ymgynghoriad, a’r rheini’n adlewyrchu sbectrwm eang o safbwyntiau.  Roedd yr ymatebwyr yn cynnwys awdurdodau lleol, cynghorau tref a chymuned, darparwyr hunanarlwyo, busnesau lleol, cyrff cynrychioliadol, cyrff/cymdeithasau proffesiynol ac unigolion preifat.

5.3 Nid oedd y rhan fwyaf o'r ymatebion i'r ymgynghoriad yn cefnogi cynnydd yn y premiwm uchaf. Prin yw'r dystiolaeth o'r ymgynghoriad bod rhanddeiliaid yn credu y gallai cynyddu'r ganran uchaf gael effaith gadarnhaol o ran mynd i'r afael â'r materion sy’n codi yn sgil ail gartrefi.”

O ystyried y nifer uchel iawn o ymatebion i’r ymgynghoriad a’r ffaith nad oedd y rhan fwyaf o’r ymatebion hynny’n cefnogi’r cynnig i gynyddu’r disgresiwn cyfradd ganrannol, nid yw’n glir pam y dilynwyd Opsiwn 2 o’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol, yn bennaf gan na ddarperir rhagamcan clir ynghylch y cynnydd tebygol mewn refeniw i awdurdodau bilio. Nodir hefyd baragraff 6.26 o’r Memorandwm Esboniadol:

“6.26 Gallai uchafswm uwch arwain at gynnydd yng nghostau casglu a gorfodi'r dreth gyngor i awdurdodau lleol os bydd trethdalwyr yn gwrthod talu'r premiwm ychwanegol.  Gallai hefyd arwain at berchnogion yn chwilio am ffyrdd o osgoi'r premiwm.  Gall cwynion gan dalwyr y dreth gyngor sy'n ystyried bod y premiwm yn annheg ac yn wahaniaethol gynyddu.  Byddai'r ffactorau hyn yn cael effaith weinyddol ar awdurdodau lleol.  Byddai angen i awdurdodau ystyried ffactorau o'r fath wrth benderfynu a ddylid cymhwyso premiwm uwch ai peidio.”

Un ffordd y gallai perchnogion geisio osgoi’r premiwm yw gael eiddo mewn ardaloedd awdurdodau bilio cyfagos, a allai drosglwyddo’r ‘broblem o ail gartrefi’ i rywle arall.

3. Rheol Sefydlog 21.3(i) - ei fod yn codi tâl ar Gronfa Gyfunol Cymru neu ei fod yn cynnwys darpariaethau sy’n ei gwneud yn ofynnol i daliadau gael eu gwneud i’r Gronfa honno neu i unrhyw ran o’r llywodraeth neu awdurdod lleol neu gyhoeddus er mwyn cydnabod unrhyw drwydded, cydsyniad neu unrhyw wasanaethau sydd i’w rhoi, neu ei fod yn rhagnodi swm unrhyw dâl neu daliad o’r fath.

Nodir y bydd y cynllun a bennir yn y Rheoliadau yn debygol o arwain at fwy o refeniw i awdurdodau bilio am ddarparu gwasanaethau sy’n dod o dan ffi’r Dreth Gyngor, a bod y Rheoliadau’n rhagnodi, drwy welliant, y mecanwaith ar gyfer cynyddu’r ffi honno. yn ôl disgresiwn yr awdurdod bilio.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru i bwyntiau rhinweddau 1 a 2.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

8 Mawrth 2022